Bydd Gwobrau Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru yn dychwelyd fel digwyddiad wyneb-yn-wyneb yn 2023, yn dilyn seibiant o dair blynedd yn ystod y pandemig COVID-19.
Mae'r cyfnod blaenoriaeth i archebu seddi a hysbysebu yn awr ar agor i Aelodau C&B Cymru ac enwebeion. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r seremoni, anfonwch e-bost at contactus@aandbcymru.org.uk am wybodaeth.
Mae tocynnau ar gyfer Raffl Profiadau Gorau Cymru hefyd ar werth. Mae’r daflen lawn isod yn rhestru’r holl wobrau a gellir prynu tocynnau trwy e-bostio contactus@aandbcymru.org.uk.
Y Rhestr Fer
Y Wobr Robert Maskrey am Ddyngarwch Celfyddydol



Datgelir Derbynnydd y Wobr hon yn y Seremoni
Gwobr Ymgynghorydd y Flwyddyn



Kate Fisher, Hospital Innovations a Theatr na nÓg
Roman Kubiak, Hugh James a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Sian Humpherson, Snowdonia Hospitality & Leisure ac Elen Llwyd Roberts / Dica
Dan Lewis, Spindogs ac Urdd Gwneuthyrwyr Cymru
Celfyddydau, Busnes a'r Gymuned



Cardiff Community Housing Association a NoFit State Circus
Cartrefi Conwy ac Oriel Colwyn
Newport Transport a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon
Celfyddydau, Busnes ac Amrywiaeth



Bad Wolf a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Hijinx Theatre, It’s My Shout Productions, The Other Room
Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro ac Engage Cymru
S4C a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr



Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd a Hijinx Theatre
Cydweithfa Cartrefi Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Jones Bros Civil Engineering UK a Role Plays for Training
Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd





Awdurdod Harbwr Caerdydd a Theatr na nÓg
Port of Milford Haven ac Elusen Aloud
RWE / Cronfa Fferm Wynt Clocaenog ac Urdd Gobaith Cymru
Celfyddydau, Busnes ac Iechyd



Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro a Forget-Me-Not Chorus a Four in Four
Lyan Packaging a Theatr Clwyd
Wales & West Utilities a Cherdd â Gofal
Celfyddydau a Busnes Bach





Cazbah ac Elusen Aloud
Monumental Welsh Women a Mewn Cymeriad / In Character
Severn Screen a Hijinx Theatre
Busnes y Flwyddyn CGI



Datgelir Derbynnydd y Wobr hon yn y Seremoni
Gwobrau Celfyddydau Hodge Foundation



Datgelir Derbynwyr y Gwobrau yma yn y Seremoni
Y Beirniaid
Mae ein beirniaid yn annibynnol o C&B Cymru a daethant i’w casgliadau ar sail y wybodaeth a roddwyd iddynt gan yr enwebion.

Deb Bowen Rees
Cyfarwyddwr, Dŵr Cymru Welsh Water

Siân Doyle
Prif Weithredwr, S4C

Karen Hodge
Ymddiriedolwr, Hodge Foundation

Ify Iwobi
Pianydd, Cyfansoddwr, Cynhyrchydd

Leusa Llewelyn
Cyd-Prif Weithredwr, Llenyddiaeth Cymru

Adrienne O’Sullivan
Sylfaenydd a Chyfarwyddwr, Act Now Creative Training

Sunil Patel
Hyfforddwr ac Ymgynghorydd Cydraddoldeb Hiliol

Grant Stephens
Rheolwr Gyfarwyddwr, Grant Stephens Family Law
Stephen Thornton
Rheolwr Materion Cyhoeddus, Valero
Artist y Gwobrau

Ingrid Walker
Bydd yr unigolion a’r cwmnïau llwyddiannus unwaith eto yn derbyn tlysau a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y seremoni. Cânt eu dylunio a'u creu gan yr artist gwydr lliw Ingrid Walker sy'n hanu o Fro Morgannwg.
Mae’r tlysau y mae hi wedi’u dylunio ar gyfer C&B Cymru wedi’u hysbrydoli gan lampau Glowyr Cymru a byddant yn cynnwys tirweddau o Gymru wedi eu goleuo a’u gosod ar sylfaen haearn morthwyl.