Trefn y Noson
7.30pm
Agoriad y Digwyddiad a Chroeso
7.40pm
Seremoni: Categorïau Gwobrau 1-9
8.30pm
Adloniant
8.50pm
Busnes y Flwyddyn Admiral a Gwobr Celfyddydau Sefydliad Hodge
9.10pm
Adloniant
9.30pm
Diwedd
Rhestr Fer
Y Wobr Robert Maskrey am Ddyngarwch Celfyddydol



Datgelir Derbynnydd y Wobr hon yn y Seremoni
Gwobr Ymgynghorydd y Flwyddyn



Enillydd
Emma Heyes, Admiral Group plc a Theatr na nÓg
Déborah Reeve, Admiral Group plc ac Act Now Creative Training
Gemma Barnett, Blake Morgan a Rubicon Dance
James Downes, Tŷ’r Cwmnïau a Hijinx
Celfyddydau, Busnes a Hunaniaeth Brand



Enillydd
Admiral Group plc ac Amgueddfa Cymru
Bad Wolf a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Distyllfa Penderyn a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Celfyddydau, Busnes a’r Gymuned



Enillydd
Cartrefi Conwy ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Natwest a Ffotogallery
Parc Pendine ac Opera Cenedlaethol Cymru
Celfyddydau, Busnes a Phobl Ifanc



Enillydd
Hodge Foundation ac Elusen Aloud
Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys a Gogledd Cymru a Chwmni Theatr Arad Goch
Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned a Theatr Clwyd
Valero a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Celfyddydau a Busnes Bach



Enillydd
Hern & Crabtree a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Porter’s Cardiff a The Other Room
Rules of Play a Chapter
Celfyddydau, Busnes ac Iechyd



Enillydd
Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Rubicon Dance
Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Bangor a Hijinx
Western Power Distribution a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd





Enillydd
Cyfoeth Naturiol Cymru a Theatr Clwyd
Dylan’s Restaurant a Venue Cymru
Western Power Distribution a Theatr na nÓg
Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr



Enillydd
Hodge Bank a Role Plays for Training
Legal & General Investment Management a Hijinx
Valero ac Act Now Creative Training
Busnes y Flwyddyn Admiral



Datgelir Derbynnydd y Wobr hon yn y Seremoni
Gwobr Celfyddydau Sefydliad Hodge



Datgelir Derbynnydd y Wobr hon yn y Seremoni
Ocsiwn Tawel

Sesiwn Hyfforddiant Personol gyda Colin Jackson
Sesiwn hyfforddi awr o hyd ar Zoom gyda'r cyn-athletwr Olympaidd.
Cynnig Cyfredol: £200

Llyn Tegid o Caerau Uchaf, Catrin Williams
Deunydd Cymysg. Maint: 9.8” x 14.6”, Mewn ffrâm wen: 12.2” x 17.3”
Cynnig Cyfredol: £200

Gweithdy Gemwaith a Phrofiad Oriel gyda Mari Thomas
Profiad hanner diwrnod i hyd at 4 o bobl gyda'r Gemydd arobryn yn ei horiel yn Llandeilo
Cynnig Cyfredol: £200

Main Street Laugharne, Ann Parr
Broc môr wedi'i farneisio, lled 3-dimensiwn. Rhodd garedig gan Yr Oriel Waterfront, Aberdaugleddau
Maint: 4 troedfedd x 42”
Cynnig Cyfredol: £200

Aberaeron, Ann Parr
Rhidyll pren a metel 3-dimensiwn, wedi'i baentio y tu mewn a'r tu allan. Rhodd garedig gan Yr Oriel Waterfront, Aberdaugleddau
Maint: 10” x 4”
Cynnig Cyfredol: £150

Cysgodion y Paith, Blanced Gymreig gan Cefyn Burgess
Cysgodion y paith, y daith ffordd i Gwm Hyfryd, Patagonia.
Gwlân 100%. Maint: 70” x 60”
Cynnig Cyfredol: £230

Bowlen Aderyn a Ffermdy, Lowri Davies
Clai Tsieina, wedi'i gorffen gyda marciau platinwm wedi'i baentio â llaw.
Maint: 1.2” x 2“ x 5”
Cynnig Cyfredol: £55

Jwg Capel y Babell, Lowri Davies
Clai Tsieina, wedi'i gorffen gyda marciau platinwm wedi'i baentio â llaw.
Maint: 4” x 4.7” x 3.3”
Cynnig Cyfredol: £120
Cyflwyno’ch Cynnig
Y Beirniaid
Mae ein beirniaid yn annibynnol o C&B Cymru a daethant i’w casgliadau ar sail y wybodaeth a roddwyd iddynt gan yr enwebion.

Kathy Brown
Roedd Kathy Brown yn Rheolwr Dinasyddiaeth Ranbarthol yn Barclays PLC nes iddi ymddeol yn 2019. Mae'n parhau i ymwneud yn weithredol ag ystod o elusennau a sefydliadau lleol ac mae'n aelod hirsefydlog o Banel CultureStep C&B Cymru.

Jean Church MBE
Mae Jean Church MBE yn Brif Swyddog Gweithredol ac yn Sylfaenydd My Business Lynq Ltd. Mae hi hefyd yn Uwch Aelod Cyngor Annibynnol Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD), yn Gadeirydd IoD Cymru, yn Is-Gadeirydd Fforwm Economaidd Strategol Torfaen, yn aelod o Banel Cyflymu Cymru i Fusnesau a Llysgennad Teenage Cancer Trust yng Nghymru.

Ruth Fabby MBE, DL
Mae Ruth Fabby MBE, DL wedi bod yn Gyfarwyddwr Celfyddydau Anabledd Cymru ers Awst 2019. Yn hanu o Lerpwl, mae Ruth wedi gweithio yn y sector celfyddydol ers 38 mlynedd – yn wreiddiol fel perfformiwr a chynhyrchydd – ac wedi teithio’r byd yn datblygu prosiectau celfyddydol dan arweiniad pobl anabl. Mae ganddi MA mewn Rheolaeth Menter Gymdeithasol ac mae'n Gymrawd Teithio Ymddiriedolaeth Goffa Winston a Phrifysgol John Moore, Lerpwl.

Ceidiog Hughes
Mae Ceidiog Hughes yn gyn-newyddiadurwr papur newydd a theledu a sefydlodd y cwmni cysylltiadau cyhoeddus blaenllaw Ceidiog Communications yn 2004. Yn hyrwyddwr tymor hir C&B Cymru, daeth Ceidiog yn un o Lysgenhadon Gogledd Cymru’r elusen yn 2020.

Hayley Hughes
Hayley Hughes yw Cyfarwyddwr CelticHR o Dde Cymru, cwmni sy'n arbenigo mewn gwella perfformiad busnes trwy reoli pobl yn effeithiol. Derbyniodd Hayley Wobr Ymgynghorydd y Flwyddyn C&B Cymru 2019 am ei chyfraniad rhagorol i Fwrdd Touch Trust. Mae hi'n angerddol am amrywiaeth a chynhwysiant i sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Suzanne Packer
Mae'r actor a dinesydd balch o Gaerdydd, Suzanne Packer, wedi bod yn ymddangos ein sgriniau teledu a'n prif lwyfannau ers blynyddoedd lawer. Mae hi wedi chwarae ystod eang o gymeriadau mewn gyrfa sydd wedi mynd â hi o'r West End i Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae Suzanne yn gefnogwr ffyddlon i C&B Cymru ac yn Llysgennad balch Hosbis Caerdydd a’r Fro ym Mhenarth.

Tim Rhys Evans MBE
Mae Tim Rhys Evans MBE yn arweinydd corawl, trefnydd, cyfansoddwr a chyflwynydd teledu y mae galw mawr amdano. Ef yw sylfaenydd a chyn gyfarwyddwr artistig Only Men Aloud a'r Elusen Aloud. Ym mis Ebrill 2020, daeth Tim yn Gyfarwyddwr Cerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Stephen Thornton
Mae Stephen Thornton yn Rheolwr Materion Cyhoeddus Purfa Valero Penfro. Cyn symud i Gymru yn 2013, roedd ei brofiad yn cynnwys y lluoedd arfog, gwleidyddiaeth a'r wasg a chysylltiadau cyhoeddus.
Artist y Gwobrau

Lowri Davies
Mae Lowri Davies o Gaerdydd yn adnabyddus am greu casgliadau o lestri tsieina sy’n cynnwys cwpanau te, jygiau a fasys wedi’u nodweddu gan agoriadau â goledd a’u haddurno gyda’i darluniau inc a dyfrlliw.
Deillia ei gwaith o gyfeiriadau at waith tsieina a arddangosir ar ddreser Gymreig, casgliadau o gofroddion, bric-a-brac, a llestri o’r 18fed ganrif a hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Mae’r eitemau yma yn aml yn cyfeirio at synnwyr o le drwy ail-gyffroi eiconagraffi a symbolaeth sydd â chysylltiad dwfn i’w gwreiddiau.
Nod tlysau porslen Gwobrau 2020 C&B Cymru Lowri yw cyfleu gwaith caled, dyfalbarhad a llwyddiant.